Tirwedd Cymru a Coleridge
Yng Nghymru dechreuodd Coleridge ymrwymo yn frwd am y tro cyntaf gyda gwylltineb natur. Cadarnhaodd y daith ei yrfa fel artist. Roedd llinellau enwog Rime of the Ancient Mariner wedi’u hysbrydoli gan ddringo i fyny mynydd Penmaenmawr yng ngogledd Cymru ar ddiwrnod poeth. Gellir cysylltu’r ogofau a’r dirwedd yn ei gerdd wych Kubla Khan â Phontarfynach ger Aberystwyth.
Iolo Morganwg a Coleridge
Roedd Coleridge ac Iolo Morganwg yn rhannu’r un weledigaeth. Mae’r ŵyl deithiol hon yn 2016 yn archwilio pŵer syniadau Coleridge yng Nghymru, eu perthnasedd â gwaith oes Iolo Morganwg, a’u perthnasedd ar gyfer cymdeithas Prydain ac yn fwy rhyngwladol.
1794 - Y bardd Samuel Coleridge yn rhoi’r gorau i’r brifysgol ac yn cerdded ledled Cymru gan freuddwydio am sefydlu cymdeithas newydd, tecach. Mae’n ymsefydlu ym Mryste.
1795 - Y dewin llenyddol Cymreig Iolo Morganwg yn stopio ym Mryste ar ôl taith siomedig i Lundain, ac yn darganfod darlithoedd Coleridge, ac ysgrifennu’r canlynol ar boster: “Coleridge, Coleridge, Coleridge, Coleridge”
Cafodd Iolo Morganwg, sylfaenydd yr Eisteddfod fodern, ddylanwad enfawr ar ddiwylliant Cymru yn y 19eg Ganrif. Daeth Coleridge yn un o feirdd gorau Prydain – er hyn mae llawer o’i waith ysgrifennu wedi cael ei guddio a’i anwybyddu. Mae’r ddau yn pwysleisio pwysigrwydd deall cysyniadau Ewropeaidd o’r gwahaniaeth rhwng RHESWM a DEALLTWRIAETH.
R. S. Thomas, Coleridge a’r dychymyg
Roedd y bardd adnabyddus Cymreig o’r 20fed Ganrif, R. S. Thomas, yn ystyried gwaith Coleridge i fod yn hynod bwysig. Wrth ddarlithio yn Eisteddfod 1976 ar bŵer myth, geiriau, lleoliad a natur yn hunaniaeth y Cymry, dywedodd...
"Er mwyn deall iawn ystyr dychymyg mae’n rhaid i berson fod yn gyfarwydd â gwaith Coleridge, ond nid oes gennyf amser i sôn am hynny heddiw"
Coleridge yng Nghymru 2016 40 mlynedd ers anerchiad cyweirnod R. S. Thomas “Abercuawg” yn Eisteddfod 1976.
David Jones a’r Hen Longwr
Ymrwymodd yr artist a bardd modern Prydeinig, David Jones, yn fawr â gweledigaeth Coleridge, gan ddarlunio The Rime of The Ancient Mariner ac ysgrifennu am ddyfnder Brythonig gweledigaeth Coleridge.
Adlewyrcha engrafiadau Jones o’r Hen Longwr ei ddealltwriaeth o
- estyniad dwfn Coleridge i ddychymyg pobl
- ein gallu i ddinistrio ein hamgylchedd yn ddireswm
- r potensial ym mherthynas dynol ryw â’r byd naturiol
I gyd-fynd â’r Ŵyl yn 2016 bydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn arddangos engrafiadau Jones yn yr Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd.
“Roedd David Jones yn uniaethu mor angerddol â’r syniad o Gymru, a phwysigrwydd ei hiaith a’i diwylliant i brofiad cyffredin Prydain dros y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf.” - OLIVER FAIRCLOUGH, CEIDWAD CELF, AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CYMRU
Beirdd, Cymru a thwristiaeth
Cyniga Gŵyl Coleridge yng Nghymru gyfle unigryw ar gyfer treftadaeth a thwristiaeth ryngwladol. Mae cofnodion helaeth o deithiau cerdded Wordsworth o Gymru; a hefyd cyswllt Shelley â Chwm Elan. Byddwn yn creu digwyddiadau, teithiau a pherfformiadau o fewn etifeddiaeth ddiwylliannol sy’n gallu herio, trawsnewid a dathlu bywyd modern yng Nghymru a’i soniarusrwydd rhyngwladol.
Byddwn yn pwysleisio cysylltiadau Cymreig â chymunedau a diwylliant ledled y byd, ac yn archwilio beirdd rhyngwladol gyda lleisiau tebyg ochr yn ochr ag Iolo Morganwg a Coleridge.
Angerdd am Mary Evans
Roedd Coleridge mewn cariad â merch Gymreig, Mary Evans. Roedd ei theulu o Wrecsam a dyna ble fuont gwrdd, am gyfnod pryfoclyd o fyr, ar ei daith o Gymru. Ysgrifennodd cerdd serch “The Sigh” ar gyfer Mary, ac mae llun ohoni yn hongian yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd. Bydd aduniad o’r cariadon yn ystod yr Ŵyl yn Wrecsam.
Archwilio gydag Iolo Morganwg
Mae nifer yn dal i ystyried Iolo Morganwg 1747 -1826 (enw barddol Edward Williams), er dal yn ffigwr ddadleuol, fel ‘Saer Cenedl’ oherwydd ei gyfraniad i adfywiad diwylliannol y Cyfnod Rhamantaidd. Trwy ei adfywiad gweledigaethol o destunau Canol Oesol Cymru, ac yn ei seremoni barhaus, Gorsedd y Beirdd, fe hyrwyddodd enw da Cymru fel cenedl sifil, ac fe oedd y cyntaf i awgrymu y dylai Cymru gael ei sefydliadau cenedlaethol ei hun: llyfrgell, academi, amgueddfa ac amgueddfa werin.
Saer maen wrth ei grefft, roedd yn bolymath hunanddysgedig ac mae ei waith ysgrifenedig yn dangos amrywiaeth rhyfeddol ei ddiddordebau: derwyddiaeth, barddoniaeth, caneuon gwerin, hen bethau, pensaernïaeth, amaethyddiaeth, daeareg, iaith a thafodiaith, achresi, radicaliaeth a diddymu caethwasiaeth.
Gweithiodd Iolo Morganwg gyda chynllwyniwr ieuanc Coleridge, y bardd Robert Southey, ac, fel Coleridge, fe archwiliodd y gwahaniaeth rhwng ein galluoedd am ‘reswm’ a ‘dealltwriaeth’.
Cynhaliodd y Canolfan Uwchefrydiau Cymreig yn Aberystwyth astudiaeth saith-mlynedd o Iolo Morganwg yn 2001 ac maen nhw’n darparu adnoddau ar-lein ardderchog ar ei fywyd a’i waith: http://www.iolomorganwg.wales.ac.uk/bywyd.php?lang=cy