Gŵyl Coleridge yng Nghymru 2016

Yn gynnar yn haf 2016, bydd y canwr a’r hwyluswr Richard Parry yn ymuno â grŵp o artistiaid, beirdd, cerddorion, actorion, amgylcheddwyr, athronwyr, gwleidyddion, diwinyddion, cogyddion a storïwyr ar lwybr dwy daith y bardd Samuel Taylor Coleridge o Gymru.

Fe roddodd Coleridge y gorau i’r Brifysgol yng Nghaergrawnt ac fe deithiodd o amgylch Cymru yn 1794 gan freuddwydio am sefydlu cymdeithas newydd, tecach. Roedd y daith gerdded hon yn fentrus ac yn arloesol.  Ar y pryd roedd pobl yn ystyried cerdded i fod yn hen ffasiwn ac yn ddi-foes. Nid oedd gan y gymdeithas ddiddordeb mewn mynyddoedd. Daeth Coleridge i gael profiad o dirwedd, prydferthwch ac ysbrydoliaeth Cymru ac i freuddwydio am gymdeithas wedi’i thrawsnewid yn seiliedig ar gyfle ac ysbryd cyfartal. Dylanwadodd Cymru ar ei farddoniaeth, ac mae 2016 yn nodi 200 mlynedd ers cyhoeddi ei glasur canol oed Biographia Literaria.

 

Bydd grŵp teithiol 2016 yn perfformio, yn ymrwymo â’r cyhoedd, yn mynychu digwyddiadau’r ŵyl, yn dod ag arddangosfeydd gyda hwy, yn cyfarfod â chymunedau, sefydliadau ac ysgolion lleol ac yn cydweithio ag artistiaid, meddylwyr, perfformwyr, eglwysi, addysgwyr, gwneuthurwyr ac arweinwyr busnes ledled Cymru.

 

Byddant yn teithio ar droed, ar feic, ar long, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan ymgymryd â thripiau ac archwilio’r dirwedd.  Mewn modd cyhoeddus iawn, bydd yr Ŵyl yn archwilio barddoniaeth enwog a meddwl dylanwadol Coleridge, wrth iddi symud rhwng trefi, pentrefi a dinasoedd trwy gefn gwlad Cymru, gan ddarganfod a darlledu soniarusrwydd Coleridge gyda llenyddiaeth, diwylliant a thraddodiadau Cymreig ynghyd â gweledigaethau am fywyd cyfoes Cymru heddiw, gan ddatgelu sut mae, ac roedd, cyrch Coleridge eisoes yn rhan nodweddiadol o ddiwylliant, iaith a hanes Cymru, a chysylltiadau Cymreig ar draws y byd.

 

Nid yw doniau Coleridge erioed wedi cael eu dathlu’n llawn – dyma antur ddiwylliannol fentrus i aildanio chwant yn nychymyg y cyhoedd ym Mhrydain ar archwilio pŵer Coleridge o ddarlunio ein tirwedd, diwydiant, cymuned, ffydd gyffredinol, cyfiawnder, lletygarwch a chyswllt cyfrannol.  Gweledigaeth goll mewn ardaloedd eraill o Brydain?    Ymunwch â ni.