Roedd Coleridge ar y rheng flaen o gyflwyno’r symudiad Prydeinig i Brydain. Roedd yn ceisio cael gwared â  beth roedd yn gweld fel uniongrededd cyffredinol, ffurfiol caeth y 18fed ganrif. Yn hytrach, roedd yn datgan dynol ryw fel pobl â galluoedd unigryw a chreadigol i ddatgelu ystyr a phwrpas ym mhrofiadau a natur bob dydd.

 

Yn ei ysgrifennu rhybuddiodd Coleridge i ddosbarth canol Seisnig a oedd yn gyflyn ddod yn fwy diwydiannol eu bod mewn peryg o ffocysu ar agweddau materol bywyd yn unig.  Fe esboniodd i’r cyhoedd Prydeinig y gwahaniaethau Ewropeaidd rhwng RHESWM  a DEALLTWRIAETH sy’n cyfeirio at ddimensiwn o fywyd ble byddai dychymyg a’r byd naturiol yn chwarae rôl allweddol yn ein synnwyr cyffredin o hunaniaeth, ystyr, ffydd, ysbryd a gweledigaeth cyfiawnder cymdeithasol.

 

Mae elfennau pragmatig a materol o ddiwylliant Seisnig y 18fed a’r 19eg ganrif yn dal i ddominyddu llawer o feddwl heddiw yn y DU. Mae ei ddylanwad yn eang nid yn unig mewn gwyddoniaeth ond hefyd yn y celfyddydau, llywodraeth, ffydd, arferion cyflogaeth a meddwl cyhoeddus. Bu Coleridge wneud alwad utgorn, gan honni bod angen cyfuno gallu pragmatig a materol ag elfennau seicolegol pwrpasol cryf o’n galluoedd dychmygus, creadigol, esthetig a chymdeithasol.

 

Fe gyhoeddodd Biographia Literaria yn 1817 ac Aids to Reflection yn 1825. Roedd Bryste a’r De Orllewin wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr iddo yn ei yrfa gynnar, a bu fyw yn Ardal y Llynnoedd am gyfnod byr. Yn Llundain nid oedd byth yn gallu gwireddu’r llwyddiant ariannol roedd eu doniau yn eu haeddu. Ar ei daith olaf allan bu gwrdd â’r gwyddonydd Michael Faraday.  Bu Coleridge farw yn Highgate yn 1834, gyda ffrindiau yn gofalu amdano.