Pam Cymru?

Sut mae celf, esthetig, profiad a lleoliad yn eistedd yn ein bywyd cyhoeddus? Pa drysor celfyddydol, cymdeithasol ac amgylcheddol sydd gan Gymru heddiw y mae ardaloedd eraill o Brydain wedi anghofio amdanynt?

Mae Gŵyl Coleridge yng Nghymru yn ceisio darganfod sut mae diwylliant Cymreig eisoes yn deall ac yn ymgorffori dimensiynau diwylliannol cyffrous Coleridge, a’r sawl y’u hysbrydolwyd ganddo. Mae Cymru yn gallu deall Coleridge yn y modd unigryw hwn.

Hunaniaeth Gymreig fodern
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau i geisio cyfleoedd trawsffurfiol ar gyfer lles unigolion, sefydliadau a chymunedau yng Nghymru. Mae’n cydnabod ein bod yn wynebu nifer o heriau wrth i Gymru ail-leoli’i pherthynas gyda gweddill y DU a’r byd yn ehangach. Mae nifer yn edrych am weledigaeth newydd a syniadau creadigol. Mae Gŵyl Coleridge yng Nghymru yn ceisio cyfrannu mewn modd pwysig at y ddadl am werthoedd a rhinweddau sy’n gwneud Cymru’r wahanol o ran bywyd cyhoeddus.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth sy’n mynd i’r afael â chynaladwyedd a Chenedlaethau’r Dyfodol. Yn ddiweddar mae’r symudiad rhyngwladol wedi hyrwyddo rôl Diwylliant fel yr allwedd i ddatblygu economïau a chymunedau newydd, creadigol, iach, teg a chryf. Mae Gŵyl Coleridge yng Nghymru 2106 yn falch iawn o fod mewn partneriaeth â Cynnal Cymru/Sustain Wales ac Y Gymru a Garem i hyrwyddo meddwl gwrol, perthnasau a gweithrediadau diwylliannol ar gyfer ein lles yn y dyfodol.

Nid nod Gŵyl Coleridge yng Nghymru yw edrych yn ôl ac ailymweld â rhamantiaeth hanesyddol y 18fed a’r 19eg Ganrif. Mae’n archwiliad cyfoes, gyda sefydliadau a chymunedau, o ffrydiau deallus nas eu harchwiliwyd eisoes a diwylliant dyddiol sy’n pwysleisio pwysigrwydd perthynas a lleoliad yn ein cymunedau ac economïau. Mae pwysigrwydd perthynas a lleoliad yn dal i fod yn bwysig yn niwylliant Cymreig poblogaidd. Mae’r Ŵyl yn ceisio hyrwyddo hyn, a phwysleisio strwythura coll perthynas a lleoliad sydd â chynnig deinamig a chreadigol ar gyfer sefydliadau a chymdeithas fodern. Gall archwilio gwaith Coleridge ac Iolo Morganwg helpu Cymru fodern gael gwell ddealltwriaeth o’i hun a’i photensial heddiw.