Coleridge Y gweledydd

Ganwyd Samuel Taylor Coleridge yn Nyfnaint yn 1772. Yn wyth mlwydd oed, ar ôl marwolaeth ei dad, anfonwyd Coleridge yn blentyn amddifad i Ysgol Ysbyty Christ yn Llundain.  Adnabuwyd ei ddawn gynnar am iaith meddwl, areithio a diwylliant ac yn 19 mlwydd oed enillodd ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt. Wedi’i ysbrydoli gan ysbryd y Chwyldro Ffrengig roedd yn feirniad cryf o’r hyn roedd yn ystyried fel sefydliadau hen a marwaidd y gymdeithas Seisnig.  Rhoddodd Coleridge y gorau i’r Brifysgol a dechrau cerdded o amgylch Cymru yn 1794, gan ymrwymo o ddifrif am y tro cyntaf gyda’r byd natur yn ei waith, a chadarnhaodd y daith hon ei yrfa fel artist.

Fe luniodd bartneriaeth greadigol agos a manwl gyda William Wordsworth, gan helpu ffurfio’r athroniaeth sy’n tanategu barddoniaeth gynnar lwyddiannus a gwych Wordsworth (roedd y Swyddfa Gartref yn ysbïo arnynt oherwydd roeddent yn meddwl mai ysbïwriaeth ar gyfer Byddin Ffrainc oedd eu barddoniaeth a oedd yn sôn am gerdded a natur) ac ysgrifennu rhai o farddoniaeth Wordsworth ar y cyd ag ef. Mae cerddi Coleridge ei hun, Rime of the Ancient Mariner a Kubla Khan hefyd ymhlith y gorau yn yr iaith Saesneg.

Roedd ei egni, dawn, gweledigaeth, brwdfrydedd, siaradusrwydd, stamina corfforol a’i dueddiad am gwympiadau dryslyd difrifol ysbeidiol yn ei wneud yn gydweithiwr, gŵr, tad a ffigwr gyhoeddus ddeniadol ond anodd.  Roedd yn cythruddo ac yn difyrru ei deulu, ffrindiau, critigyddion a’r cyhoedd darllengar. Yn y diwedd, cafodd ei feirniadu’n llym gan gyn ffrindiau, ond fe ysbrydolodd a chynnal cyfeillgarwch ffyddlon oes hefyd.

Yn ogystal â bod yn fardd gwych, fe gafodd lwyddiant syfrdanol mewn nifer o feysydd…

Newyddiadurwr: Ysgrifennodd Coleridge ysgrifau golygyddol rheolaidd ar gyfer un o brif bapurau newydd Llundain ac roedd yn gyfrifol am y portreadau gwleidyddol seicolegol cyntaf. Gwyddoniaeth: roedd yn ffrind ac yn gydweithiwr i’r fferyllydd arloesol Humphrey Davy, a anogodd Coleridge i ddarlithio ar y berthynas rhwng y celfyddydau a gwyddoniaeth yn y Sefydliad Brenhinol. Ar ei ail daith o Gymru, teithiodd Coleridge gyda Tom Wedgwood sy’n cael y clod am wneud rhai o’r lluniau cyntaf. Diplomydd: Gweithiodd Coleridge yng ngweinyddiaeth Malta ac ysgrifennodd adroddiad a ddarparwyd i Nelson. Ysgrifennodd yn helaeth ar y thema o arweinyddiaeth ac roedd yn fentor i genhedlaeth ifancach o feddylwyr ac ysgrifenwyr. Ysgrifennwr teithio: mae ei dyddlyfrau a’i nodlyfrau o Brydain, yr Almaen, ardal Môr y Canoldir a’r Eidal yn taflu goleuni ar ei deithiau a’i feddwl, ac yn cynnwys un o’r disgrifiadau cyntaf yn Saesneg o goeden Nadolig. Chwyldröwr a meddyliwr: mae’n ysbrydoli ac yn cythruddo radicalwyr a’r sefydliad trwy ei ddysgu, ei ddewrder a’i ynganiad o system werthoedd athronyddol dwfn o oedd yn herio awdurdod ond hefyd yn amlinellu’r angen am sefydliadau cryf a oedd yn cefnogi potensial dynol ryw yn gyffredinol. Fe frwydrodd dros ddiddymu caethwasiaeth. Caeth i opiwm: ar ôl cael meddygaeth cysgu pan roedd ganddo dwymyn yn ifanc, daeth yn gaeth i opiwm pan nad oedd ei rinweddau caethiwus yn hysbys.  Daeth i ddeall y ddibyniaeth hon a brwydro’n aflwyddiannus i ddadwenwyno, gan ddioddef o gyfnodau hir o salwch, llewygu ac adwaith diddyfnu. Gweledydd: Yn ystod ei oes, beirniadwyd Coleridge yn barhaus am gyhoeddi prosiectau rhyfeddol ond nid oedd byth yn eu cyflawni; ond fe amlinellodd, o bryd i’w gilydd, sylfeini rhyfeddol ac fe ysbrydolodd a chyfarwyddo’n dawel bach nifer o symudiadau dylanwadol a ddaeth ar ei ôl, gan archwilio ysbryd, ffydd, cymuned, dychymyg a chyfiawnder cymdeithasol.  Mae sylfeini nifer o brofiadau diwylliannol Prydeinig modern yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol heddiw yng ngwaith oes Coleridge. Bardd: Rime of the Ancient Mariner (Cerdd yr Hen Longwr) : Y trobwynt sy’n ganolog i’r gerdd Brydeinig wych The Rime of The Ancient Mariner yw pan, ar ôl lladd yr Albatros yn ddifeddwl ac achosi marwolaeth criw’r llong, mae’r Llongwr yn derbyn y gallu i fendithio creaduriaid y môr. Beth mae’r foment farddonol ddofn a swynol hon yn golygu i ni heddiw ac i’n berthynas â’r byd naturiol? Bardd:  Kubla Khan:  In Xanadu did Kubla Khan a stately pleasure dome decree…  Beth yw swyddogaeth ein galluoedd esthetig a chreadigol yn natblygiad cymdeithas? Roedd gan Coleridge weledigaeth o ddiwylliant dynol ble roedd ein hunaniaeth lawn yn gallu llewyrchu fel unigolion a chymunedau, ac roedd hyn yn ysbrydoliaeth i’r ymgyrchwyr a ddaeth ar ei ôl. Ble gellir gweld a chadarnhau’r weledigaeth honno heddiw? Pŵer ein dychymyg: Soniodd Coleridge am theori o ddychymyg wedi’i seilio yn nhraddodiadau Ewropeaidd dwfn o feddwl ac ymarfer. Mae ei ysgrifennu yn archwilio taith sy’n tynnu dychymyg i mewn i daith, tirwedd a’r amgylchedd, sydd yna’n gofyn cwestiynau am gymuned, cyfiawnder cymdeithasol a natur ein hunaniaeth. Rheswm a Dealltwriaeth:  Mae hysbys bod Coleridge wedi esbonio i ddarllenwyr y diwrnod y gwahaniaeth rhwng RHESWM a DEALLTWRIAETH.  Ar yr un pryd roedd Iolo Morganwg yn hyrwyddo cysyniadau tebyg o Reswm a Deall yn niwylliant Cymreig.  Sut mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn cynnal a chorffori’r dimensiwn yma heddiw? Beth mae’n ei olygu i gymdeithasau modern sydd wedi anghofio neu anwybyddu’r gwahaniaethau hyn? Pŵer rhannau:  Roedd yn hysbys bod bywyd personol a phroffesiynol Coleridge yn anhrefnus.  Honnodd yn aml y byddai’n cwblhau prosiectau a gweithiau ysgrifenedig mawrion, gan adael rhannau ardderchog yn unig. Beth yw’r rhannau toredig o fywyd â’r pŵer rhyfeddol hwn o gread ac adfywiad newydd, er ein tueddiadau dinistriol ac anhrefnus? Critig:  Ef oedd sylfaenydd ein dealltwriaeth fodern o fawredd seicolegol a dramataidd Shakespeare. Grym corfforol:  Roedd gan Coleridge ymagwedd frwd, gadarn, gorfforol at fywyd, gydag awydd llawen am gwmni, gan archwilio tirwedd a dychmygu cymdeithas wedi’i hail-greu.